Genesis 32:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o'r neilltu; ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o'm blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyr a'i gilydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n rhoi'r anifeiliaid mewn grwpiau ar wahân yng ngofal ei weision. “Croeswch yr afon o'm blaen i, ond cadwch fwlch rhwng pob grŵp o anifeiliaid,” meddai wrthyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoes hwy yng ngofal ei weision, bob gyr ar ei phen ei hun, a dywedodd wrth ei weision, "Ewch o'm blaen, a gadewch fwlch rhwng pob gyr a'r nesaf."