Genesis 32:20 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hôl ni. Oblegid (eb efe) bodlonaf ei wyneb ef â'r anrheg sydd yn myned o'm blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Jacob yn gobeithio y byddai'r anrhegion yn ei dawelu cyn i'r ddau gyfarfod wyneb yn wyneb. Roedd yn gobeithio y byddai Esau yn ei dderbyn wedyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
'Y mae dy was Jacob yn ein dilyn.'" Hyn oedd yn ei feddwl: "Enillaf ei ffafr 'r anrheg sy'n mynd o'm blaen; wedyn, pan ddof i'w gyfarfod, efallai y bydd yn fy nerbyn."