Genesis 32:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a'i bendithiodd ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd Jacob iddo, “Beth ydy dy enw di?” “Pam rwyt ti'n gofyn am fy enw i?” meddai'r dyn. Ac wedyn dyma fe'n bendithio Jacob yn y fan honno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gofynnodd Jacob iddo, "Dywed imi dy enw." Ond dywedodd yntau, "Pam yr wyt yn gofyn fy enw?" A bendithiodd ef yno.