Genesis 33:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jacob a ddywedodd, Nage; atolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymer fy anrheg o'm llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb DUW, a thi yn fodlon i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Na wir, plîs cymer nhw,” meddai Jacob. “Os wyt ti'n fy nerbyn i, derbyn nhw fel anrheg gen i. Mae gweld dy wyneb di fel gweld wyneb Duw — rwyt ti wedi rhoi'r fath groeso i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Jacob, "Na, os cefais ffafr yn d'olwg, cymer fy anrheg o'm llaw; y mae gweld dy wyneb fel gweld wyneb Duw, gan dy fod wedi fy nerbyn.