Genesis 33:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyda thi rai o'r bobl sydd gyda mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gad i mi adael rhai o'r dynion yma i fynd gyda ti,” meddai Esau wedyn. “I beth?” meddai Jacob. “Mae fy arglwydd wedi bod mor garedig yn barod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Esau, "Gad imi drefnu i rai o'm dynion fynd gyda thi." Ond atebodd yntau, "Pam, os wyf yn cael ffafr yng ngolwg f'arglwydd?"