Genesis 33:5 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu'r gwragedd, a'r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes DUW o'i ras i'th was di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan welodd Esau y gwragedd a'r plant, gofynnodd “Pwy ydy'r rhain?” A dyma Jacob yn ateb, “Dyma'r plant mae Duw wedi bod mor garedig â'u rhoi i dy was.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cododd Esau ei olwg a gweld y gwragedd a'r plant, a gofynnodd, "Pwy yw'r rhain sydd gyda thi?" Atebodd yntau, "Dyma'r plant y mae Duw o'i ffafr wedi eu rhoi i'th was."