Genesis 34:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid oedodd y llanc wneuthur y peth, oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Sechem yn cytuno ar unwaith. Roedd e eisiau Dina, merch Jacob, gymaint. (A fe oedd y person pwysica yn y teulu i gyd.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
nid oedodd y llanc wneud hyn, oherwydd yr oedd wedi rhoi ei serch ar ferch Jacob, ac ef oedd y mwyaf anrhydeddus o'i holl deulu.