Genesis 34:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, Trallodasoch fi, gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, gan y Canaaneaid a'r Pheresiaid: a minnau yn ychydig o nifer, hwy a ymgasglant yn fy erbyn, a thrawant fi: felly y difethir fi, mi a'm tŷ.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dych chi wedi achosi trwbwl go iawn i mi,” meddai Jacob wrth Simeon a Lefi. “Bydd pobl y wlad yma, y Canaaneaid a'r Peresiaid, yn fy nghasáu i. Does dim llawer ohonon ni. Os byddan nhw'n dod at ei gilydd ac ymosod arnon ni, bydd hi ar ben arnon ni i gyd. Byddwn ni'n cael ein dinistrio'n llwyr!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Jacob wrth Simeon a Lefi, "Yr ydych wedi dwyn helbul ar fy mhen a'm gwneud yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, y Canaaneaid a'r Peresiaid; y mae nifer fy mhobl yn fach, ac os ymgasglant yn fy erbyn ac ymosod arnaf, yna difethir fi a'm teulu."