Genesis 34:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Jacob a ddaethant o'r maes, wedi clywed ohonynt; a'r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyda merch Jacob; canys ni ddylesid gwneuthur felly.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn y cyfamser roedd meibion Jacob wedi cyrraedd yn ôl. Roedden nhw wedi clywed y newyddion, yn teimlo'r sarhad ac yn wyllt gynddeiriog. Roedd Sechem wedi gwneud peth gwarthus yn Israel drwy ymosod yn rhywiol ar ferch Jacob — rhywbeth na ddylai byth fod wedi digwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi i feibion Jacob gyrraedd o'r maes a chlywed am y peth, cynhyrfodd y gwu375?r a ffromi'n fawr am i Sichem wneud tro ysgeler yn Israel trwy orwedd gyda merch Jacob, gan na ddylid gwneud felly.