Genesis 35:1 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A DUW a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i DDUW, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd Duw wrth Jacob, “Dos i fyny i Bethel i fyw. Gwna allor yno i addoli'r Duw ddaeth atat ti pan oeddet ti'n dianc oddi wrth dy frawd Esau.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Duw wrth Jacob, "Cod, dos i fyny i Fethel, ac aros yno; a gwna yno allor i'r Duw a ymddangosodd iti pan oeddit yn ffoi rhag dy frawd Esau."