Genesis 35:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd DUW a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog: cynydda, ac amlha; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o'th lwynau di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dwedodd Duw wrtho, “Fi ydy'r Duw sy'n rheoli popeth. Dw i eisiau i ti gael lot o blant. Bydd cenedl — ie, hyd yn oed grŵp o genhedloedd — yn dod ohonot ti. Bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd Duw wrtho, "Myfi yw Duw Hollalluog. Bydd ffrwythlon ac amlha; daw ohonot genedl a chynulliad o genhedloedd, a daw brenhinoedd o'th lwynau.