Genesis 35:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad; a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedd yn byw yno, dyma Reuben yn cysgu gyda Bilha, partner ei dad. A daeth Israel i glywed am y peth. Roedd gan Jacob un deg dau o feibion:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Tra oedd Israel yn byw yn y wlad honno, aeth Reuben a gorwedd gyda Bilha gwraig ordderch ei dad; a chlywodd Israel am hyn. Yr oedd deuddeg o feibion gan Jacob.