Genesis 35:4 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a'r clustlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a'u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n rhoi'r duwiau eraill oedd ganddyn nhw i Jacob, a'r clustdlysau hefyd. Dyma Jacob yn claddu'r cwbl dan y dderwen oedd wrth Sichem,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly rhoesant i Jacob yr holl dduwiau dieithr oedd yn eu meddiant a'r modrwyau oedd yn eu clustiau, a chuddiodd Jacob hwy dan y dderwen ger Sichem.