Genesis 35:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca; a hi a gladdwyd islaw Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhon‐bacuth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Debora (sef y forwyn oedd wedi magu Rebeca pan oedd hi'n ferch fach) yn marw yno. Cafodd ei chladdu dan y dderwen oedd islaw Bethel. Felly cafodd y lle ei alw yn Dderwen yr Wylo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A bu farw Debora, mamaeth Rebeca, a chladdwyd hi dan dderwen islaw Bethel; ac enwyd honno Alon-bacuth.