Genesis 36:39 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn ar ôl i Baal-chanan fab Achbor farw daeth Hadar o dre Paw yn frenin yn ei le. Enw gwraig Hadar oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fu farw Baal-hanan fab Achbor, teyrnasodd Hadar yn ei le; Pau oedd enw ei ddinas. Mehetabel merch Matred, merch Mesahab, oedd enw ei wraig.