Genesis 36:6 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Esau a gymerodd ei wragedd, a'i feibion, a'i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a'i anifeiliaid, a'i holl ysgrubliaid, a'i holl gyfoeth a gasglasai efe yng ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i'r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Symudodd Esau i ffwrdd i wlad oedd yn reit bell oddi wrth ei frawd Jacob. Aeth â'i wragedd gydag e, a'i feibion a'i ferched, a phawb arall oedd gydag e, a'i anifeiliaid a'r holl eiddo oedd wedi ei gasglu pan oedd yn byw yng ngwlad Canaan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cymerodd Esau ei wragedd, ei feibion a'i ferched, a phob aelod o'i deulu, ei wartheg a'i holl anifeiliaid, a'r holl feddiant a gafodd yng ngwlad Canaan, ac aeth draw i wlad Seir oddi wrth ei frawd Jacob.