Genesis 37:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a'i mynegodd i'w dad, ac i'w frodyr. A'i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a'th fam, a'th frodyr, i ymgrymu i lawr i ti?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond pan ddwedodd wrth ei dad a'i frodyr am y freuddwyd, dyma'i dad yn dweud y drefn wrtho. “Sut fath o freuddwyd ydy honna?” meddai wrtho. “Wyt ti'n meddwl fy mod i a dy fam a dy frodyr yn mynd i ddod ac ymgrymu o dy flaen di?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddo ei hadrodd wrth ei dad a'i frodyr, ceryddodd ei dad ef, a dweud, "Beth yw'r freuddwyd hon a gefaist? A ddown ni, myfi a'th fam a'th frodyr, i ymgrymu i'r llawr i ti?"