Genesis 37:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dyma genedlaethau Jacob. Joseff, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyda'i frodyr ar y praidd: a'r llanc oedd gyda meibion Bilha, a chyda meibion Silpa, gwragedd ei dad; a Joseff a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma hanes teulu Jacob: Pan oedd Joseff yn 17 oed, roedd gyda'i frodyr yn gofalu am y preiddiau. Llanc ifanc oedd e, yn gweithio gyda meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad. Ond roedd yn cario straeon am ei frodyr i'w dad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma hanes tylwyth Jacob. Yr oedd Joseff yn ddwy ar bymtheg oed, ac yn bugeilio'r praidd gyda'i frodyr, gan helpu meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad; a chariodd Joseff straeon drwg amdanynt i'w tad.