Genesis 37:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o'r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a'i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o'i freuddwydion ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Gadewch i ni ei ladd. Gallwn ei daflu i mewn i bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ladd. Cawn weld beth ddaw o'i freuddwydion wedyn!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dewch, gadewch inni ei ladd a'i daflu i ryw bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ddifa; yna cawn weld beth a ddaw o'i freuddwydion."