Genesis 37:35 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i holl feibion, a'i holl ferched, a godasant i'w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i'r beddrod: a'i dad a wylodd amdano ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ei feibion a'i ferched i gyd yn ceisio ei gysuro, ond roedd yn gwrthod codi ei galon. “Dw i'n mynd i fynd i'r bedd yn dal i alaru am fy mab,” meddai. Ac roedd yn beichio crïo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A daeth pob un o'i feibion a'i ferched i'w gysuro, ond gwrthododd dderbyn cysur, a dywedodd, "Mewn galar yr af finnau i lawr i'r bedd at fy mab." Ac wylodd ei dad amdano.