Genesis 37:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall, ac a'i mynegodd i'w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a'r lleuad, a'r un seren ar ddeg, yn ymgrymu i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn cafodd Joseff freuddwyd arall, a dwedodd am honno wrth ei frodyr hefyd. “Dw i wedi cael breuddwyd arall,” meddai. “Roedd yr haul a'r lleuad ac un deg un o sêr yn ymgrymu o'm blaen i.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna cafodd freuddwyd arall, ac adroddodd amdani wrth ei frodyr a dweud, "Cefais freuddwyd arall: dyna lle'r oedd yr haul a'r lleuad ac un seren ar ddeg yn ymgrymu i mi."