Genesis 38:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hithau a ddiosgodd ddillad ei gweddwdod oddi amdani, ac a'i cuddiodd ei hun â gorchudd, ac a ymwisgodd, ac a eisteddodd yn nrws Enaim, yr hwn sydd ar y ffordd i Timnath: oblegid gweled yr oedd hi fyned Sela yn fawr, ac na roddasid hi yn wraig iddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Tamar yn gwybod fod Shela wedi tyfu, ac eto doedd hi ddim wedi cael ei rhoi yn wraig iddo. Felly dyma Tamar yn newid o'r dillad oedd yn dangos ei bod hi'n weddw, gwisgo i fyny, a rhoi fêl dros ei hwyneb. Yna aeth i eistedd ar ochr y ffordd y tu allan i bentref Enaim, sydd ar y ffordd i Timna.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
tynnodd wisg ei gweddwdod oddi amdani, a gwisgo gorchudd a'i lapio amdani. Yna aeth i eistedd wrth borth Enaim ar y ffordd i Timnath; oherwydd yr oedd yn gweld bod Sela wedi dod i oed ac nad oedd hi wedi ei rhoi'n wraig iddo.