Genesis 38:16 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a drodd ati hi i'r ffordd, ac a ddywedodd, Tyred, atolwg, gad i mi ddyfod atat: (oblegid nid oedd efe yn gwybod mai ei waudd ef ydoedd hi.) Hithau a ddywedodd, Beth a roddi i mi, os cei ddyfod ataf?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth draw ati ar ochr y ffordd, a dweud, “Tyrd, dw i eisiau rhyw gyda ti.” (Doedd e ddim yn gwybod mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi.) A dyma hithau yn ateb, “Faint wnei di dalu i mi am gael rhyw gyda fi?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trodd ati ar y ffordd a dweud, "Tyrd, gad i mi gael cyfathrach thi." Ond ni wyddai mai ei ferch-yng-nghyfraith oedd hi. Atebodd hithau, "Beth a roi di imi, os cei gyfathrach mi?"