Genesis 38:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddychwelodd at Jwda ac a ddywedodd, Ni chefais hi; a gwŷr y fro honno hefyd a ddywedasant, Nid oedd yma un butain.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly aeth yn ôl at Jwda a dweud wrtho, “Dw i wedi methu dod o hyd iddi. Mae dynion yr ardal yn dweud fod dim putain cysegr yno.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly dychwelodd at Jwda a dweud, "Ni chefais hyd iddi; a dywedodd dynion y lle nad oedd putain y cysegr yno."