Genesis 38:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jwda a ddywedodd, Cymered iddi hi, rhag i ni gael cywilydd: wele, mi a hebryngais y myn hwn, a thithau ni chefaist hi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Caiff hi gadw'r pethau rois i iddi,” meddai Jwda. “Anfonais i'r myn gafr iddi, ond roeddet ti'n methu dod o hyd iddi. Fyddwn ni'n ddim byd ond testun sbort os awn ni yn ôl yno.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Jwda, "Bydded iddi eu cadw, neu byddwn yn destun cywilydd; anfonais i y myn hwn, ond methaist gael hyd iddi."