Genesis 39:19 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi; yna yr enynnodd ei lid ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan glywodd y meistr ei wraig yn dweud sut oedd Joseff wedi ei thrin hi, roedd e'n gynddeiriog.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan glywodd meistr Joseff ei wraig yn dweud wrtho am yr hyn a wnaeth ei was iddi, enynnodd ei lid.