Genesis 40:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a'i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i DDUW y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n dweud wrtho, “Mae'r ddau ohonon ni wedi cael breuddwydion neithiwr ond does neb yn gallu esbonio'r ystyr i ni.” Atebodd Joseff, “Dim ond Duw sy'n gallu esbonio'r ystyr. Dwedwch wrtho i beth oedd y breuddwydion.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebasant, "Cawsom freuddwydion, ac nid oes neb i'w dehongli." Yna dywedodd Joseff wrthynt, "Onid i Dduw y perthyn dehongli? Dywedwch yn awr i mi."