Genesis 41:34 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwnaed Pharo hyn, a gosoded olygwyr ar y wlad, a chymered bumed ran cnwd gwlad yr Aifft dros saith mlynedd yr amldra.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dylai benodi swyddogion ar hyd a lled y wlad, i gasglu un rhan o bump o gynnyrch y tir yn ystod y saith mlynedd o ddigonedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma a ddylai Pharo ei wneud: gosod arolygwyr dros y wlad, i gymryd y bumed ran o gnwd gwlad yr Aifft dros y saith mlynedd o lawnder.