Genesis 41:48 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a gasglodd holl ymborth y saith mlynedd a fu yng ngwlad yr Aifft, ac a roddes ymborth i gadw yn y dinasoedd: ymborth y maes, yr hwn fyddai o amgylch pob dinas, a roddes efe i gadw ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Casglodd Joseff y grawn oedd dros ben yn yr Aifft yn ystod y blynyddoedd hynny, a'i storio yn y trefi. Ym mhob tref roedd yn storio cynnyrch yr ardal o'i chwmpas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a chasglodd yntau yr holl fwyd a gaed yng ngwlad yr Aifft yn ystod y saith mlynedd, a chrynhoi ymborth yn y dinasoedd. Casglodd i bob dinas fwyd y meysydd o'i hamgylch.