Genesis 41:55 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan newynodd holl wlad yr Aifft, y bobl a waeddodd ar Pharo am fara: a Pharo a ddywedodd wrth yr holl Eifftiaid, Ewch at Joseff; yr hyn a ddywedo efe wrthych, gwnewch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd y newyn wedi dod a tharo'r Aifft, dyma'r bobl yn galw ar y Pharo am fwyd. A dyma'r Pharo yn dweud, “Ewch i weld Joseff, a gwnewch beth bynnag mae e'n ddweud.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan ddaeth newyn ar holl wlad yr Aifft, galwodd y bobl ar Pharo am fwyd. Dywedodd Pharo wrth yr holl Eifftiaid, "Ewch at Joseff, a gwnewch yr hyn a ddywed ef wrthych."