Genesis 42:38 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyda chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd‐ddi, yna chwi a barech i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond meddai Jacob, “Na, dydy fy mab i ddim yn mynd gyda chi. Mae ei frawd wedi marw, a dim ond fe sydd ar ôl. Dw i'n hen ddyn. Petai rhywbeth yn digwydd iddo ar y daith byddai'r golled yn ddigon i'm gyrru i'r bedd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Meddai yntau, "Ni chaiff fy mab fynd gyda chwi, oherwydd bu farw ei frawd, ac nid oes neb ond ef ar l. Os digwydd niwed iddo ar eich taith, fe wnewch i'm penwynni ddisgyn i'r bedd mewn tristwch."