Genesis 42:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joseff a ganfu ei frodyr, ac a'u hadnabu hwynt, ac a ymddieithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a atebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Joseff yn eu nabod nhw pan welodd nhw. Ond roedd yn ymddwyn fel dyn dieithr o'u blaenau nhw a dechreuodd siarad yn gas gyda nhw. “O ble dych chi'n dod?” meddai. A dyma nhw'n ateb, “O wlad Canaan. Dŷn ni wedi dod yma i brynu bwyd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan welodd Joseff ei frodyr, adnabu hwy, ond ymddygodd fel dieithryn a siarad yn hallt wrthynt. Gofynnodd iddynt, "O ble y daethoch?" Ac atebasant, "O wlad Canaan i brynu bwyd."