Genesis 42:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joseff a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe amdanynt hwy; ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Joseff yn cofio'r breuddwydion roedd wedi eu cael amdanyn nhw. Ac meddai wrthyn nhw, “Ysbiwyr ydych chi! Dych chi wedi dod i weld lle fyddai'n hawdd i chi ymosod ar y wlad.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cofiodd Joseff y breuddwydion a gafodd amdanynt, a dywedodd wrthynt, "Ysbiwyr ydych; yr ydych wedi dod i weld mannau gwan y wlad."