Genesis 43:11 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Israel eu tad a ddywedodd wrthynt, Os rhaid yn awr felly, gwnewch hyn; cymerwch o ddewis ffrwythau'r wlad yn eich llestri, a dygwch yn anrheg i'r gŵr, ychydig falm, ac ychydig fêl, llysiau, a myrr, cnau, ac almonau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Israel, eu tad, yn dweud wrthyn nhw, “O'r gorau, ond gwnewch hyn: Ewch â peth o gynnyrch gorau'r wlad yn eich paciau, yn anrheg i'r dyn — ychydig o falm a mêl, gwm pêr, myrr, cnau pistasio ac almon.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd eu tad Israel wrthynt, "Os oes rhaid, gwnewch hyn: cymerwch rai o ffrwythau gorau'r wlad yn eich paciau, a dygwch yn anrheg i'r dyn ychydig o falm ac ychydig o fl, glud pr, myrr, cnau ac almonau.