Genesis 43:18 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r gwŷr a ofnasant, pan dducpwyd hwynt i dŷ Joseff; ac a ddywedasant, Oblegid yr arian a roddwyd eilwaith yn ein sachau ni yr amser cyntaf, y ducpwyd nyni i mewn; i fwrw hyn arnom ni, ac i ruthro i ni, ac i'n cymryd ni yn gaethion, a'n hasynnod hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd ganddyn nhw ofn pan aethpwyd â nhw i dŷ Joseff. “Mae wedi dod â ni yma o achos yr arian oedd wedi ei roi yn ein sachau y tro dwetha,” medden nhw. “Mae'n mynd i'n dal ni, ein gwneud ni'n gaethweision a chymryd yr asynnod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yr oedd ar y dynion ofn pan gymerwyd hwy i du375? Joseff, ac meddent, "Y maent wedi dod ni i mewn yma oherwydd yr arian a roddwyd yn l yn ein sachau y tro cyntaf. Byddant yn rhuthro ac yn ymosod arnom, a'n gwneud yn gaethion, a chipio ein hasynnod."