Genesis 43:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich DUW chwi, a DUW eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi ataf fi. Ac efe a ddug Simeon allan atynt hwy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae popeth yn iawn,” meddai'r swyddog. “Peidiwch bod ag ofn. Mae'n rhaid bod eich Duw chi a'ch tad wedi rhoi'r arian yn ôl yn eich sachau. Gwnes i dderbyn eich arian chi.” A dyma fe'n dod â Simeon allan atyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd yntau, "Byddwch dawel, peidiwch ag ofni; eich Duw a Duw eich tad a guddiodd drysor i chwi yn eich sachau; derbyniais i eich arian." Yna daeth Simeon allan atynt.