Genesis 43:30 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joseff a frysiodd, (oblegid cynesasai ei ymysgaroedd ef tuag at ei frawd,) ac a geisiodd le i wylo; ac a aeth i mewn i'r ystafell, ac a wylodd yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac roedd rhaid i Joseff frysio allan o'r ystafell. Roedd ei deimladau at ei frawd yn cael y gorau arno, ac roedd ar fin torri i lawr i grïo. Aeth i ystafell breifat ac wylo yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna brysiodd Joseff a chwilio am le i wylo, oherwydd cyffrowyd ei deimladau o achos ei frawd. Aeth i'w ystafell ac wylo yno.