Genesis 43:34 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a gymerodd seigiau oddi ger ei fron ei hun iddynt hwy: a mwy ydoedd saig Benjamin o bum rhan na seigiau yr un ohonynt oll. Felly yr yfasant ac y gwleddasant gydag ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rhoddodd Joseff beth o'r bwyd oedd wedi ei osod o'i flaen e iddyn nhw. Roedd digon o fwyd i bump o ddynion wedi ei roi o flaen Benjamin! Felly buon nhw'n yfed gydag e nes roedden nhw wedi meddwi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cododd Joseff seigiau iddynt o'i fwrdd ei hun, ac yr oedd cyfran Benjamin bum gwaith yn fwy na chyfran y lleill. Felly yfasant a bod yn llawen gydag ef.