Genesis 43:7 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Hwythau a ddywedasant, Gan ymofyn yr ymofynnodd y gŵr amdanom ni, ac am ein cenedl, gan ddywedyd, Ai byw eich tad chwi eto? Oes frawd arall i chwi? Ninnau a ddywedasom wrtho ef ar ôl y geiriau hynny: a allem ni gan wybod wybod y dywedai efe, Dygwch eich brawd i waered?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Roedd y dyn yn ein holi ni'n fanwl amdanon ni'n hunain a'n teuluoedd,” medden nhw. “Roedd yn gofyn, ‘Ydy'ch tad chi yn dal yn fyw? Oes gynnoch chi frawd arall?’ Wnaethon ni ddim byd ond ateb ei gwestiynau. Sut oedden ni i fod i wybod y byddai'n dweud, ‘Dowch â'ch brawd i lawr yma’?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebasant hwythau, "Holodd y dyn ni'n fanwl amdanom ein hunain a'n teulu, a gofyn, 'A yw eich tad eto'n fyw? A oes gennych frawd arall?' Wrth inni ei ateb, a allem ni ddirnad y dywedai ef, 'Dewch 'ch brawd yma'?"