Genesis 43:8 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Jwda a ddywedodd hefyd wrth ei dad Israel, Gollwng y bachgen gyda mi, ninnau a gyfodwn ac a awn ymaith; fel y byddom byw, ac na byddom feirw, nyni, a thithau, a'n plant hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Jwda yn dweud wrth ei dad, Israel, “Anfon y bachgen gyda fi. Gallwn ni fynd yn syth, er mwyn i ni i gyd gael byw a pheidio marw — ti a ninnau a'n plant.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd Jwda wrth ei dad Israel, "Anfon y bachgen gyda mi, inni gael codi a mynd, er mwyn inni fyw ac nid marw, nyni a thithau a'n plant hefyd.