Genesis 44:16 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd Jwda, Pa beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? pa beth a lefarwn? pa fodd yr ymgyfiawnhawn? cafodd DUW allan anwiredd dy weision: wele ni yn weision i'm harglwydd, ie nyni, a'r hwn y cafwyd y cwpan gydag ef hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Jwda'n ateb, “Beth allwn ni ei ddweud wrth ein meistr? Dim byd. Allwn ni ddim profi ein bod ni'n ddieuog. Mae Duw yn gwybod am y drwg wnaethon ni. Dy gaethweision di ydyn ni bellach. Ni a'r un oedd y gwpan ganddo.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Jwda, "Beth a ddywedwn wrth fy arglwydd? Beth a lefarwn? Sut y gallwn brofi ein diniweidrwydd? Y mae Duw wedi dangos twyll dy weision. Dyma ni, a'r un yr oedd y cwpan ganddo, yn gaethion i'n harglwydd."