Genesis 44:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna yr aeth Jwda ato ef, ac a ddywedodd, Fy arglwydd, caffed, atolwg, dy was ddywedyd gair yng nghlustiau fy arglwydd, ac na enynned dy lid wrth dy was: oherwydd yr wyt ti megis Pharo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Jwda'n camu ymlaen a gofyn iddo, “Fy meistr, plîs gad i dy was gael gair gyda ti. Paid bod yn ddig. Rwyt ti fel y Pharo.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna nesaodd Jwda ato, a dweud, "O f'arglwydd, caniat i'th was lefaru yng nghlyw f'arglwydd, a phaid digio wrth dy was; oherwydd yr wyt ti fel Pharo.