Genesis 44:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Y rhai a ddywedasant wrtho yntau, Paham y dywed fy arglwydd y cyfryw eiriau? na ato DUW i'th weision di wneuthur y cyfryw beth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n ei ateb, “Syr, sut alli di ddweud y fath beth? Fyddai dy weision byth yn meiddio gwneud peth felly.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebasant hwythau, "Pam y mae ein harglwydd yn dweud peth fel hyn? Ni fyddai dy weision byth yn gwneud y fath beth.