Genesis 45:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a fynegasant iddo, gan ddywedyd, Y mae Joseff eto yn fyw, ac y mae yn llywodraethu ar holl wlad yr Aifft. Yna y llesgaodd ei galon yntau; oblegid nid oedd yn eu credu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae Joseff yn dal yn fyw!” medden nhw wrtho. “Fe sy'n rheoli gwlad yr Aifft i gyd.” Bu bron i galon Jacob stopio. Doedd e ddim yn credu ei glustiau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedasant wrtho, "Y mae Joseff yn dal yn fyw, ac ef yw llywodraethwr holl wlad yr Aifft." Aeth yntau yn wan drwyddo, oherwydd nid oedd yn eu credu.