Genesis 45:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awr hon nid chwi a'm hebryngodd i yma, ond DUW: ac efe a'm gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Nid chi wnaeth fy anfon i yma, ond Duw! Dw i'n gynghorydd i'r Pharo, yn rheoli ei balas, ac yn bennaeth ar wlad yr Aifft i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly nid chwi ond Duw a'm hanfonodd yma, a'm gwneud fel tad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dylwyth a llywodraethwr dros holl wlad yr Aifft.