Genesis 47:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pan ddarfu'r arian yn nhir yr Aifft, ac yng ngwlad Canaan, yr holl Eifftiaid a ddaethant at Joseff, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? oherwydd darfu'r arian.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd dim arian ar ôl yn yr Aifft na gwlad Canaan, dyma'r Eifftiaid yn mynd at Joseff eto. “Rho fwyd i ni. Pam ddylen ni orfod marw am fod gynnon ni ddim arian?” medden nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan wariwyd yr holl arian yn yr Aifft a Chanaan, daeth yr holl Eifftiaid at Joseff a dweud, "Rho inni fwyd. Pam y byddwn farw o flaen dy lygaid? Y mae ein harian wedi darfod yn llwyr."