Genesis 47:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joseff a brynodd holl dir yr Aifft i Pharo: canys yr Eifftiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma Joseff yn prynu tir yr Aifft i gyd i'r Pharo. Roedd yr Eifftiaid i gyd yn gwerthu eu caeau iddo, am eu bod nhw'n diodde mor ofnadwy o achos y newyn. Felly'r Pharo oedd piau'r tir i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly prynodd Joseff holl dir yr Aifft i Pharo. Gwerthodd pob un o'r Eifftiaid ei faes am fod y newyn yn drwm, ac aeth y wlad yn eiddo Pharo.