Genesis 47:22 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i'r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharo, a'u rhan a roddasai Pharo iddynt a fwytasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
(Yr unig dir wnaeth e ddim ei brynu oedd tir yr offeiriaid. Roedd yr offeiriaid yn cael lwfans gan y brenin, ac yn byw ar y lwfans hwnnw. Felly wnaethon nhw ddim gwerthu eu tir.)
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr unig dir na phrynodd mohono oedd tir yr offeiriaid. Yr oedd gan yr offeiriaid gyfran wedi ei phennu gan Pharo, ac ar y gyfran a roddwyd iddynt gan Pharo yr oeddent yn byw; felly ni werthasant eu tir.