Genesis 47:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedodd Joseff hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddiw, a'ch tir, i Pharo: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Joseff yn dweud wrth y bobl, “Heddiw dw i wedi'ch prynu chi a'ch tir i'r Pharo. Felly dyma had i chi ei hau ar y tir.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Joseff wrth y bobl, "Yr wyf heddiw wedi eich prynu chwi a'ch tir i Pharo. Dyma had ichwi; heuwch chwithau'r tir.