Genesis 47:26 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Joseff a osododd hynny yn ddeddf hyd heddiw ar dir yr Aifft, gael o Pharo y bumed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharo.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly gwnaeth Joseff ddeddf yng ngwlad yr Aifft, fod y Pharo i gael un rhan o bump o'r cynhaeaf. (Mae'r ddeddf hon yn dal mewn grym heddiw). Yr unig dir sydd ddim yn perthyn i'r Pharo ydy tir yr offeiriaid.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly gwnaeth Joseff hi'n ddeddf yng ngwlad yr Aifft, deddf sy'n sefyll hyd heddiw, fod y bumed ran yn eiddo i Pharo. Tir yr offeiriaid oedd yr unig dir na ddaeth yn eiddo i Pharo.